At: y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Ymateb Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

 

Cyflwyniad

 

Mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) yn croesawu’r cyfle hwn i gynnig sylwadau ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) sydd wedi’i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Noda’r Comisiwn fod y trefniadau a’r gweithdrefnau presennol sy’n effeithio ar y Comisiwn wedi’u deddfu ddeugain mlynedd yn ôl.  Mae’n derbyn bod y sylfeini sylfaenol ar gyfer arolygu’r trefniadau etholiadol yn eu lle; mae o’r farn fod y mesur yn fodd i wella a moderneiddio’r ffyrdd y bydd y Comisiwn a’i bartneriaid yn gweithredu yn y dyfodol, fel bod y gwaith o arolygu’r trefniadau hynny’n cael ei wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon er budd llywodraeth leol gadarn a democratiaeth leol.  Rydym yn cydnabod gwerth a dilysrwydd yr argymhellion a wnaed gan Mr Glyn Mathias yn ei Adroddiad yn 2011 ac yn gyffredinol fe wnaethom dderbyn y cynigion hynny yn ein hymateb cynharach i’r Gweinidog.  Roedd y Comisiwn wedi cyflwyno sylwadau manwl ar y Papur Gwyn, ac mae’n falch o weld fod y Bil wedi mynd i’r afael â nifer o’i bryderon.  Prin yw’r cyfle sy’n codi i gorff fel y Comisiwn allu cynnig sylwadau a dylanwadu ar y ddeddfwriaeth sy’n pennu ein bodolaeth ac sy’n diffinio ein ffordd o weithredu, ac rydym o’r farn fod y Bil yn gyfle unigryw i gyflwyno gwelliannau.  Dymunwn felly wneud sylwadau pellach er mwyn helpu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i lunio darn o ddeddfwriaeth sy’n gadarn ac yn addas i’r diben.

 

Er mwyn cynorthwyo’r broses o gasglu a dadansoddi pob un o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Bil, rydym wedi defnyddio holiadur yr ymgynghoriad fel templed ar gyfer ein hymateb.

 

Ymateb

 

C1       A oes angen Bil i wneud newidiadau i gyfansoddiad a swyddogaethau'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) ac i wneud amrywiol ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraeth leol?

 

Oes. Mae’r Comisiwn yn cytuno’n gyffredinol â chanfyddiadau adroddiad Mathias mewn perthynas â newidiadau sydd eu hangen i gyfansoddiad a swyddogaethau’r Comisiwn.  O ystyried ehangder y newidiadau y mae’n ofynnol eu gwneud i’r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn gweithredu’r newidiadau hyn, cytunir y cyflawnir hyn yn fwy effeithiol gan Fil newydd yn hytrach na thrwy wneud mân newidiadau i’r ddeddfwriaeth bresennol.

 

C2       A ydych o'r farn y bydd y Bil yn gwella’r dull o gyflawni rolau a swyddogaethau statudol y Comisiwn? (paragraff 3.1 o’r memorandwm esboniadol)

 

            Ydyn, mewn nifer o ffyrdd. Er hynny mae rhai darpariaethau o’r Bil yr ydym o’r farn y byddent, o’u gadael heb eu newid, yn cael effaith niweidiol ar allu’r Comisiwn i ymgymryd â’i rolau a’i swyddogaethau statudol. Mae ein prif feysydd pryder fel a ganlyn:

 

            Y ddarpariaeth (Adran 26 (3) (b)) i’r Comisiwn ystyried newidiadau ôl-ddilynol  i drefniadau etholiadol y prif gyngor wrth arolygu ffiniau cymunedol;

 

            Y ddarpariaeth (Adran 29 (7)) lle mae’n rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal arolwg na chyhoeddi cynigion trefniadau etholiadol yn unrhyw gyfnod o 9 mis o etholiad;

 

Y gofyniad (Adran 30 (2) (a)) i’r Comisiwn ystyried unrhyw anghysondeb rhwng nifer y rhai ar y gofrestr etholiadol a’r nifer sydd yn gymwys i bleidleisio.

 

            Mae ystyriaeth fanwl o bob un o’r materion hyn yn cael ei rhoi yn ein hymatebion i’r cwestiynau isod.

 

            Rydym o’r farn fod darpariaethau’r Bil yn rhoi mwy o gydnabyddiaeth i’r pwysigrwydd o gyflawni ffiniau cymunedau a threfniadau etholiadol priodol cyn cynnal arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal.  Ym marn y Comisiwn, fodd bynnag, nid yw’n mynd yn ddigon pell i sefydlu perthynas benodol rhwng arolygon cymunedol ac arolygon etholiadol prif ardal.  Hoffem weld trefniadau lle mae gofyniad ar brif gynghorau i fod wedi cynnal arolwg cymunedol o fewn pum mlynedd i arolwg etholiadol prif ardal fel a bennir yn rhaglen 10 mlynedd y Comisiwn, a gofyniad iddynt adrodd i’r Comisiwn nid llai nag 1 flwyddyn cyn dyddiad cychwyn arolwg etholiadol.  Byddai hyn yn rhoi un system integredig ar gyfer arolygon cymunedol ac arolygon prif gynghorau.  Byddai pob un o’r rhanddeiliaid yn deall yn glir pa bryd mae arolygon i’w cynnal, a byddai’n galluogi ymgysylltu mwy â’r broses.

 

Rydym yn cydnabod y byddai angen cyfnod trosiannol ar gyfer y ddarpariaeth hon fel ei bod yn clymu i mewn â rhaglen gyntaf 10 mlynedd y Comisiwn, naill ai drwy roi gollyngiad i’r awdurdodau hynny yn hanner gyntaf y rhaglen neu drwy fod y Comisiwn yn rhoi dechrau dwys i’r rhaglen gydag awdurdodau sydd wedi cynnal arolygon cymunedol yn fwyaf diweddar (os oes modd).

 

C3       A ydych chi o’r farn bod y newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r Comisiwn yn briodol? (Rhan 2 y Bil)

 

            Ydyn, yn gyffredinol. Byddem, fodd bynnag, yn dymuno gwneud y sylwadau a’r awgrymiadau canlynol:

 

Adran 2 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

O ran statws y Comisiwn, cynigiwn sylw mewn perthynas ag Adran 3, isod. O ran Adran 2(1), awgrymir bod y geiriau “Mae’r corff corfforaethol a enwir yn” yn cael eu dileu ac y dylai’r adran ddechrau gyda “Mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol…”.

           

O ran Adran 2(2), mae’r Comisiwn yn derbyn yr enw arfaethedig.

 

Rydym wedi ystyried y gost ychwanegol un tro’n unig a fyddai i’w thalu o ganlyniad i’r newid enw, ac rydym o’r farn na fydd hyn yn fwy na £5,000 ac y bydd cyllideb y Comisiwn yn ei thalu fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Adran 3 – Statws

 

Awgrymir y gellir gwneud y drafft o’r darpariaethau mewn perthynas â statws y Comisiwn yn fwy eglur. Mae cynnig wedi’i wneud uchod ar gyfer diwygio Adran 2.

Awgrymir, o ganlyniad, y dylid cyflwyno darpariaeth ychwanegol fel Adran 3(1):-

“Bydd y Comisiwn yn gorff corfforaethol, yn cynnwys cadeirydd, dirprwy gadeirydd ac ni fydd yn cynnwys mwy na phedwar aelod yn gyffredinol”.

Caiff y ddwy isadran nesaf eu hail-rifo o ganlyniad i hyn.

 

Mae’r diwygiad i’r Bil drafft yn ailddeddfu i bob pwrpas y ddarpariaeth a geir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, Atodlen 8 (1) (1); yn yr achos penodol hwn, ni welir unrhyw fantais dros y ddarpariaeth wreiddiol yng ngeiriad arfaethedig Adran 2(1). Byddai diddymu’r darpariaethau’n ymwneud â statws y Comisiwn nawr yn Neddf 1972 yn creu ansicrwydd pe bai Adran 2(1) fel y’i drafftiwyd yn aros.

 

Mae’r diwygiad hefyd am ddileu amwyster a geir yn Adran 4(1)(a), yr ymdrinnir ag ef isod. Mae’r mater yn ymwneud â nifer yr aelodau’n cael ei ystyried o dan Adran 4.

 

           

            Adran 4 - Aelodaeth

 

Mae’r amwyster y cyfeirir ato yn Adran 3 yn ymwneud â’r ymadrodd “aelod cadeirio” a geir yn Adran 4(1)(a). Mae’r Cytundeb Fframwaith rhwng y Gweinidog a’r Comisiwn yn pennu cyfrifoldebau ffurfiol ar gyfer Cadeirydd y Comisiwn a’r aelodau yn y drefn honno.  Mae gan y Cadeirydd atebolrwyddau sy’n wahanol i rai’r aelodau. Mae’r ymadrodd yn amwys ac nid yw’n cydnabod goblygiad dyletswyddau’r Cadeirydd. Awgrymir, fel sy’n arferol, y dylai’r geiriad fod fel y pennir uchod, mewn perthynas ag Adran 3(1).

           

Mae’r Bil yn dileu’r gofyniad presennol y dylai o leiaf un aelod fod yn siaradwr Cymraeg.  Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan y bydd aelodau’r Comisiwn, yn lle hynny, yn cael eu penodi yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a Safonau Iaith Gymraeg yn y dyfodol yn ymwneud â phenodiadau cyhoeddus.  Mae’r Comisiwn wedi gwella’i arferion drwy benodi Comisiynwyr Arweiniol, sydd â swyddogaethau’n ymwneud ag arolygon unigol, ac mae’n dymuno ymgysylltu a chyfathrebu mewn ffyrdd gwell â’r cyhoedd a’i bartneriaid allweddol.  Fel rhan o’r dull gweithredu newydd hwn byddai’r Comisiwn yn cael ei gryfhau drwy benodi aelod â sgiliau iaith.  Mae’r Comisiwn o’r farn, yn unol â hynny, y dylid cyfeirio’n benodol yn Adran 4(2) at benodi aelodau mewn perthynas â Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

 

            Adran 6 – Trafodion

 

            Deellir y gellid ystyried ei bod yn amhriodol i benderfyniadau sy’n effeithio ar broses cynnal arolygon neu reolaeth y Comisiwn gael eu gwneud gan ddau aelod yn unig, a thrwy gynyddu’r cworwm o 2 i 3, a thrwy ddarparu’r opsiwn i benodi aelodau ychwanegol byddai’r risg hon yn cael ei dileu.  Rydym o’r farn, fodd bynnag, y byddai cynyddu’r cworwm ynghyd â’r trefniant presennol o 3 aelod, yn cynyddu’r risg y bydd diffyg cworwm mewn cyfarfodydd. Byddai cynyddu’r aelodaeth i 4 neu 5 aelod yn lleihau’r risg hon, ond byddai’n cynyddu cost rhedeg y Comisiwn. Rydym o’r farn, er mwyn sicrhau bod cworwm mewn cyfarfodydd ac i osgoi mynd i gostau ychwanegol, y dylai’r cworwm aros yn 2. Rydym o’r farn mai 3 ddylai aelodaeth arferol y Comisiwn fod (gan gynnwys y cadeirydd a’r dirprwy) ond cytunwn, er mwyn cyflenwi yn ystod unrhyw absenoldeb hirdymor, y dylid cadw darpariaeth ar gyfer penodi aelodau ychwanegol.

           

 

            Adran 8 - Prif Weithredwr

 

            Cytunir bod dynodiad prif swyddog y Comisiwn yn cael ei newid o Ysgrifennydd i Brif Weithredwr.  Byddai’n well gan y Comisiwn pe bai’r holl benodiadau i’w staff yn cael eu gwneud gan y Comisiwn, fodd bynnag, cydnabyddir yn achos y prif weithredwr, a all fod yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Comisiwn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru, bod cyfiawnhad i’r penodiad gael ei wneud yn enw’r Gweinidog.  Mae’r Comisiwn yn croesawu’r ddarpariaeth yn adran 8(3) yr ymgynghorir ag ef cyn gwneud penodiad, a gobeithir y byddai’r Comisiwn yn anhepgor i’r broses sy’n arwain at y penodiad.

 

            Adran 9 – Staff eraill

 

Er budd cysylltiadau staff, mae’r Comisiwn yn awgrymu y dylid gwneud datganiad, naill ai yn y Bil, neu drwy lythyr yn enw’r Gweinidog, i’r perwyl nad yw pasio’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar hawliau cyflogaeth y staff presennol.  Gan y bydd rhaid i unrhyw benodiadau staff gael eu hariannu o’r gyllideb flynyddol a gytunir gyda Llywodraeth Cymru, nid yw adran 9(3) yn angenrheidiol a gellir ei dileu.

 

 

            Adran 10 - Arbenigwyr

 

            Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth i’r Comisiwn benodi (a thalu) unigolion i ddarparu cyngor arbenigol.  Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatau i Lywodraeth Cymru benodi unigolion i ddarparu cyngor arbenigol.  Mae’r Bil drafft yn dirprwyo’r pŵer hwn i’r Comisiwn.  Mae dogfen Fframwaith y Comisiwn gyda Llywodraeth Cymru’n darparu’r trefniadau diogelu angenrheidiol ar gyfer sicrhau Llywodraeth Cymru y byddai’r pŵer dirprwyedig hwn yn cael ei reoli’n briodol. Awgrymir felly nad yw Adrannau 10 (2) a 10 (5) yn angenrheidiol.

 

Adran 14 - Cyfarwyddiadau

 

Awgrymwn fod y ddarpariaeth gyfwerth ag a geir yn Adran 48(8) sydd wedi’i chyfyngu i Ran 3 yn unig o’r Bil, yn cael ei chynnwys gydag effaith debyg mewn perthynas â Rhan 2.  Geiriad awgrymedig y ddarpariaeth fyddai

 “Adran 14(2) Ond, cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas â’r Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.” 

 

            Adran 18 - Pwyllgor Archwilio: aelodaeth

 

Mae Adran 18 (1) (a) yn mynnu penodi aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer gwneud y penodiad. Awgrymir y canlynol fel ychwanegiad at yr adran:

Adran 18 (3) Gall y Comisiwn benodi unigolyn i fod yn aelod lleyg o’r pwyllgor archwilio.”

Byddai’r Comisiwn yn gwneud y penodiad ar sail profiad ac arbenigedd perthnasol, a chan ddilyn gweithdrefnau penodiadau cyhoeddus.

 

(Byddai is-gymalau’n cael eu hail-rifo o ganlyniad i hyn.)

 

 

C4       Ydych chi o’r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer arolygon llywodraeth leol yn briodol (Pennod 4 a 5)

 

            Ydyn, yn gyffredinol. Byddem, fodd bynnag, yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol, ac ystyriwn ei bod yn briodol yma i gynnig sylwadau ar y darpariaethau ym Mhenodau 2 a 3 sydd hefyd yn ystyried darpariaethau ar gyfer arolygon llywodraeth leol.

 

            PENNOD 2

           

Adran 26 - Arolygu ffiniau cymuned gan y Comisiwn

 

            Mae’r ddarpariaeth yn bodoli o dan y ddeddfwriaeth bresennol i’r Comisiwn ystyried newidiadau ôl-ddilynol i’r trefniadau etholiadol prif gyngor wrth arolygu ffiniau cymunedol, ac mae’n hanfodol ar gyfer tacluso ffiniau adrannau etholiadol.  Mae angen ychwanegu’r ddarpariaeth at26.3(b). Os na chaiff ei hychwanegu, yna bydd gweithredu newidiadau ffiniau cymunedol yn arwain at anghysondebau rhwng ffiniau cymunedol a ffiniau adrannau etholiadol na fyddant yn cael eu datrys nes bod arolwg etholiadol o’r brif ardal wedi’i gynnal a’i roi ar waith.

 

            PENNOD 3

           

Adran 29 - Arolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal

 

            Ystyrir y gallai teitl yr adran hon ddarllen yn well fel ‘Arolygu trefniadau etholiadol prif ardal’.

 

            Mae’r Comisiwn o’r farn, o ystyried ei amserlen waith bresennol, y byddai dyddiad cychwyn cynharach nag 1 Mai 2014 yn fuddiol. Ystyriwn fod Medi 2013 (neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol) yn ddyddiad cychwyn priodol ar gyfer y cyfnod 10 mlynedd.

 

            Nid yw’r Comisiwn yn cytuno â darpariaethau Adran 29 (7) gan y bydd hyn yn cyfyngu’r amserlen. I bob pwrpas, byddai’r ddarpariaeth yn golygu na fydd unrhyw adroddiadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod o Awst 2016 i Fai 2017, ac ar gyfer etholiadau dilynol.  Gallai hyn olygu bod arolygon sydd ar waith yn cael eu hatal am 9 mis.  Er mwyn osgoi hyn, byddai’n rhaid i’r Comisiwn amserlennu’r arolygon fel bod arolygon naill ai wedi’u cwblhau erbyn cychwyn y cyfnod, neu heb eu dechrau nes ar ôl yr etholiad.  Cytunir efallai na fydd yn briodol cyhoeddi argymhellion ar ôl dyddiad hysbysiad swyddogol am etholiad.  Ystyriwn y byddai’n bosibl paratoi rhaglen o arolygon sy’n bodloni Gweinidogion Cymru heb y cyfyngiad hwn.  Byddai dileu’r cyfyngiad hwn yn galluogi’r Comisiwn i sicrhau ffrwd waith gyson dros y cyfnod, a byddai hyn yn cynorthwyo cadw staff a dyrannu cyllideb.  Mae Tabl Un yn Atodiad A yn dangos y rhaglen arolygon gyda’r cyfnod 9 mis, ac mae Tabl Dau yn dangos rhaglen heb y cyfyngiad hwn.

 

            Mae Adran 29 (10) yn diffinio’r derminoleg. Nodir bod yr hyn a ddynodwyd yn flaenorol fel ‘adrannau etholiadol’ bellach yn ‘ardaloedd etholiadol’, ac mae ‘adrannau etholiadol aml-aelod’ bellach yn ‘aelod-ardaloedd’ lluosog.  Ni roddwyd unrhyw esboniad ynghylch pam mae’r derminoleg wedi newid.  Mae’r Bil yn cyflwyno newidiadau i derminoleg a wnaed ers tro (ers Deddf 1972) ac mae’r Comisiwn yn pryderu y gallai hyn achosi dryswch, ond nid oes ganddo wrthwynebiad mewn egwyddor.

 

            Adran 30 - Ystyriaethau ar gyfer arolwg o drefniadau etholiadol prif ardal

 

   Mae Adran 30 (2) (a) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried unrhyw anghysondeb rhwng nifer y rhai ar y gofrestr etholiadol a’r nifer sy’n gymwys i bleidleisio.  Mae hyn yn ychwanegu elfen newydd i’r ystyriaeth y mae’n rhaid i’r Comisiwn ei rhoi wrth gynnal arolygon etholiadol. Awgrymir y byddai’r elfen hon yn galluogi mwy o amrywio yn y gymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, ond nid yw’n glir faint o bwyslais a ddylid rhoi i’r elfen hon a faint o amrywio a ganiateir.  Pennwyd y gofyniad hwn hefyd ar arolygon o drefniadau etholiadol cymunedol yn Adran 33.  Er bod yr ystadegau ar gyfer nifer yr etholwyr cofrestredig ar gael yn gyson ac i lefel fanylder sy’n ofynnol at ddibenion arolygon, rydym yn pryderu nad yw’r ystadegau ar gyfer nifer y rhai sy’n gymwys i fod yn etholwyr ar gael ar yr un sail.  Rydym o’r farn y dylid dileu’r ddarpariaeth yn Adran 30 (2) (a) a’r ddarpariaeth gyfwerth yn Adran 33 (5) o’r Bil.

 

Os digwydd i’r ddarpariaeth gael ei deddfu, byddai’r Comisiwn o blaid cynnal trafodaethau gyda’r Adran gyda golwg ar ddatblygu arweiniad ar gyfer rhoi’r darpariaethau hyn ar waith.  Er mwyn ychwanegu tryloywder a dealltwriaeth, dylid cynnwys cyrff priodol eraill wrth ddrafftio neu wrth ymgynghori ar unrhyw ganllawiau o’r fath.

 

 

Adran 31 - Arolygu trefniadau etholiadol i gymunedau gan brif gyngor

 

Ystyrir y gallai teitl yr adran hon ddarllen yn well fel ‘Arolygu trefniadau etholiadol cymunedau gan brif gyngor’.

 

Adran - 32 Arolygu trefniadau etholiadol cymuned gan y Comisiwn

 

Ystyrir y gallai teitl yr adran hon ddarllen yn well fel ‘Arolygu trefniadau etholiadol cymunedau gan y Comisiwn’.

 

           

 

PENNOD 4

           

Adran 35 - Ymgynghori ac ymchwilio

 

            Mae Adran 35 (3) yn gwneud darpariaeth i’r adroddiad cynigion drafft gael ei gyhoeddi’n electronig, ac mae paragraffau pellach yn sôn am ‘gopïau’ o’r adroddiad.  Efallai yr awgrymir bod y copïau pellach hyn yn gopïau electronig hefyd yn hytrach na rhai papur.  Mae’r un peth yn wir o dan Adran 36 ar gyfer yr adroddiad cynigion terfynol.  Os mai’r bwriad yw i gopïau electronig yn unig gael eu cynhyrchu, yna dylid dweud hyn yn glir ar gyfer pob cyfeiriad at adroddiad.  Er ein bod o’r farn fod manteision cost i’w cael o gynhyrchu copïau electronig o’r adroddiad yn unig, rydym yn pryderu y gallai fod nifer o ymgynghoreion o hyd nad yw’r ddarpariaeth ganddynt i dderbyn gwybodaeth yn y dull hwn.  Byddem yn dymuno, yn y tymor byr, i barhau i ddarparu rhai copïau papur o’n hadroddiadau o leiaf, ond rydym yn gytûn mai symud tuag at gyhoeddi popeth yn electronig y byddem yn dymuno’i wneud yn y pen draw.

 

            Adran 36 - Adrodd ar yr Arolwg

 

            Mae Adran 36 (6) (c) yn gwneud y Comisiwn yn awdurdod gweithredu mewn perthynas ag arolygon o dan Adran 25 (Arolygu ffiniau cymuned gan brif gyngor). O dan y trefniadau presennol, mae arolygon o ffiniau cymunedol yn amlach na pheidio yn mynnu bod newidiadau ôl-ddilynol yn cael eu gwneud i drefniadau etholiadol y brif ardal (er mwyn osgoi anghysondebau rhwng ffiniau cymunedol a ffiniau adrannau etholiadol).  Caiff hyn ei reoli ar hyn o bryd gan y Comisiwn yn gwneud cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol wrth wneud cynigion i Weinidogion Cymru ar ôl ystyried cynigion y cyngor i’r Comisiwn.  Fel y nodwyd uchod (wrth ystyried Adran 26.3(b)), nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer yr ystyriaeth hon yn y Bil drafft.  Mae’r Comisiwn o’r farn y dylai fod.  Byddai hyn, fodd bynnag, yn cynnwys goblygiadau i’r Comisiwn fel yr awdurdod gweithredu mewn perthynas ag arolygon ffiniau cymunedol, gan y gall y rhain wneud newidiadau i drefniadau etholiadol prif gyngor.  O dan y ddeddfwriaeth bresennol a’r Bil drafft, Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod gweithredu ar gyfer newidiadau i drefniadau etholiadol prif gyngor. A fyddai angen i hyn barhau pe bai Adran 26 (3) (b) yn cael ei newid fel y cynigir gan y Comisiwn?

 

            PENNOD 5  

GWEITHREDU YN DILYN AROLWG

 

            Dylai fod darpariaeth i’r awdurdod gweithredu hysbysu awdurdodau lleol yr effeithir arnynt pan gaiff Gorchymyn ei wneud.

 

C5       A ydych o’r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

·         Dyletswyddau’r Comisiwn

·         Dyletswyddau prif gynghorau

yn briodol? (Pennod 1)

 

            Ydyn, yn gyffredinol. Byddem yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol, fodd bynnag:  

 

PENNOD 1

           

Adran 21 - Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leol

 

   Mae’r ddarpariaeth o dan Adran 21 (3) sef ‘…rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus’ yn wahanol i’r ddarpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 i’r perwyl fod rhaid iddo ‘wneud cynigion ….  weithredu newidiadau sy'n ymddangos i'r Comisiwn yn rhai sy'n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus’.  Byddai’r datganiad newydd i weld yn awgrymu bod gan y Comisiwn gylch gwaith ehangach nag sydd ganddo (naill ai ar hyn o bryd neu’n dilyn y Bil) ac mae’n mewnosod dyletswydd sy’n mynd ymhellach na’r pwerau a roddwyd i’r Comisiwn gan y Bil. Byddai hyn yn arwain at ansicrwydd ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn. Awgrymir bod geiriad Deddf 1972 yn cael ei ddilyn yma, a bod cyfeiriadau at ‘sicrhau’ yn cael eu dileu. Mae gofyniad hefyd i brif gynghorau o dan Adran 22(3).

 

Adran 22 - Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal

 

   Dylai testun y teitl yn Adran 22 ddarllen ‘Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas â chymunedau yn eu hardal’.

 

 

C6 i C9          

 

            Dim sylwadau

 

 

C10     Beth yw’r rhwystrau posibl i roi darpariaethau’r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

 

            Fel y nodwyd yn ateb i gwestiwn 4 uchod, nid oes unrhyw ddarpariaeth i’r Comisiwn ystyried newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol prif gyngor wrth arolygu ffiniau cymunedol.

 

C11     Beth yw goblygiadau ariannol y Bil, os ydynt yn bodoli? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith) sy’n cynnwys amcangyfrif o’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig â rhoi’r Bil ar waith.

 

            Mewn perthynas â chostau ychwanegol i’r Comisiwn, rydym yn cytuno â’r asesiadau yn y Memorandwm Esboniadol.

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol adran 5 (139(ii)), yn ystyried arbedion cost tebygol o gyhoeddi’r adroddiadau drafft ar ffurf electronig yn unig.  Mae’r Bil drafft, fodd bynnag, yn cynnig bod yr adroddiadau terfynol yn cael eu cyhoeddi’n electronig hefyd. Os yw ein dehongliad ni o’r Bil yn gywir (gweler uchod) yna’r gofyniad yw i bob copi o’r adroddiadau gael eu darparu fel copïau electronig.  Os felly, yna bydd mwy o arbedion mewn perthynas ag argraffu a dosbarthu. Os mai’r bwriad, fodd bynnag, yw cynhyrchu copïau caled ar gyfer yr ymgynghoreion gorfodol ac eraill, yna ni fydd yr arbedion yn rhai mor sylweddol.

 

C12     Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion) (adran 5 y Memorandwm Esboniadol)?

 

            Noda’r Comisiwn y pwerau arfaethedig i wneud is-ddeddfwriaeth, ac mae’n cytuno â mesurau a fydd yn galluogi gweithredu’n briodol.

 

C13     A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o’r Bil?

 

Adran 45 - Newid ardal heddlu

 

            Mae Adran 45 (2) yn rhoi pŵer ychwanegol i’r Comisiwn i argymell newidiadau i ardaloedd heddlu.  Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn yn hysbysu’r awdurdodau heddlu a’r Swyddfa Gartref (Uned Diwygio’r Heddlu) am newidiadau arfaethedig i ffiniau prif ardaloedd. Gwaith y Swyddfa Gartref wedyn yw ystyried newidiadau ôl-ddilynol i’r ardaloedd heddlu.

 

            Mae’r ddarpariaeth yn Adran 45 3(b) yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach o ffiniau prif ardal ar ôl addasu ffiniau’r ardal heddlu.  Mae problem bosibl yn gymaint ag y gall gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag ardaloedd heddlu fod yn wahanol i’r gofynion ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.  Byddai anhawster posibl o ran datrys y gwahaniaethau hyn a allai achosi oedi ac ansicrwydd.

 

Adran 50 - Arolygon o gyrff cyhoeddus cymwys

 

Yn ymateb y Comisiwn i’r Papur Gwyn, dywedom, pe bai’r cynnig hwn yn cael ei ddeddfu, y byddem yn croesawu trafodaethau gyda’r Llywodraeth i ddiffinio’n llawn natur y swyddogaeth arfaethedig ac i ddatblygu’r fethodoleg a’r prosesau ar gyfer ymgymryd â’r swyddogaeth hon. Er bod y Bil drafft yn rhoi ychydig mwy o fanylion, mae’n dal i adael pethau’n agored iawn ac yn amodol ar unrhyw gyfarwyddiadau y gall Gweinidogion Cymru benderfynu eu gwneud.  Mae’r Comisiwn yn awgrymu ei bod yn ofynnol cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i greu canllawiau a fydd yn galluogi rhoi’r darpariaethau hyn ar waith er budd tryloywder a dealltwriaeth y cyrff yr effeithir arnynt.

 


Tabl Un: Rhaglen Arolygon gyda chyfnod 9 mis cyn etholiad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2014

2015

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

2023

2024

Review Area

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

 

 

S

 

 

D

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

 

 

 

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

 

 

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

13

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

14

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

15

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

16

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

17

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

18

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

19

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

20

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

21

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

 

 

 

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

22

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

 

 

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

August to May

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

August to May

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S - Start of review

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

D - Draft Proposals

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

F - Final Proposals

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Tabl Dau: Rhaglen Arolygon heb gyfnod 9 mis cyn etholiad (yn dechrau yn 2013)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2013

2014

2015

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

2023

 

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

Q1

Q2

Q3

Q4

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

13

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

14

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

15

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

16

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

17

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

18

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

19

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

20

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

 

 

F

 

 

 

 

 

21

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

22

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

S

 

 

D

 

 

F

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

E

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

E

 

 

 

 

 

 

S - Start of review

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

D - Draft Proposals

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

F - Final Proposals